Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Canolfan i Deuluoedd Llanrwst yn dathlu 20 mlynedd

Canolfan i Deuluoedd Llanrwst yn dathlu 20 mlynedd


Summary (optional)
start content

Canolfan i Deuluoedd Llanrwst yn dathlu 20 mlynedd

Mae Canolfan i Deuluoedd Llanrwst wedi dathlu 20 mlynedd o fodolaeth. 

Ers agor yn 2003, mae’r Ganolfan wedi cefnogi cannoedd o deuluoedd, wedi cynnal miloedd o grwpiau ac wedi cysylltu â’r rhai sy’n gweithio gyda theuluoedd yn yr ardal.

Ar 22 Mai, dathlodd Canolfan i Deuluoedd Llanrwst dau ddegawd llwyddiannus fel tîm cymunedol cyfeillgar.  Er mwyn nodi’r achlysur arbennig, dathlodd y tîm gyda’r gymuned a sefydliadau partner, gyda gweithgareddau hwyliog, cacen a chyfle i rannu atgofion.

Meddai’r Cyng. Elizabeth Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu: “Llongyfarchiadau mawr i bawb yng Nghanolfan i Deuluoedd Llanrwst - mae 20 mlynedd wedi hedfan heibio.

“Mae’r Ganolfan yn parhau i fod yn lleoliad croesawgar gan gynnig cyfle i famau, tadau, neiniau a theidiau a gofalwyr, alw i mewn am gyngor neu gymorth gan wybod eu bod mewn amgylchedd cyfeillgar.

“Mae pob teulu, waeth pwy ydynt, angen cymorth ar rai cyfnodau yn eu bywydau. Mae’n galonogol clywed rhieni yn disgrifio’r Canolfan i Deuluoedd fel ‘rhaff achub’ iddynt.  Beth am alw heibio am sgwrs, mae bob amser croeso i’w gael.”

Mae Canolfan i Deuluoedd Llanrwst yn ffurfio rhan o rwydwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy o bum tîm a chanolfan sy’n cefnogi trigolion lleol ac yn ganolbwynt croesawgar i’r holl gymuned yn ne’r Sir.

Mae ar agor i bawb, gall deuluoedd ymuno i mewn gyda gweithgareddau, mynychu cyrsiau am fywyd teuluol, neu gael eu cefnogi gan Weithwyr Teulu.

Mae nifer o wasanaethau eraill yn defnyddio’r Ganolfan hefyd er mwyn cwrdd â theuluoedd a chynnig cymorth - o faterion ariannol ac iechyd meddwl, i gadw’r teulu’n ddiogel, gwneud ffrindiau a dysgu sgiliau newydd.

Mae’r tîm Canolfan i Deuluoedd hefyd yn ymweld â chymunedau yn yr ardaloedd amgylchynol, ac yn ymuno gyda gweithgareddau teuluol yn rheolaidd.

Dilynwch Llanrwst Family Centre Canolfan Teulu Llanrwst ar Facebook.

I ddod o hyd i’ch canolfan i deuluoedd agosaf, oriau agor, ac i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal leol, ewch i www.conwy.gov.uk/bywydteuluol

Wedi ei bostio ar 23/05/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content