Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ymestyn oriau agor Llyfrgell Llanrwst

Ymestyn oriau agor Llyfrgell Llanrwst


Summary (optional)
start content

Ymestyn oriau agor Llyfrgell Llanrwst

Mae oriau agor Llyfrgell Llanrwst yng Nglasdir, Llanrwst wedi eu hymestyn.

Drwy ymestyn yr oriau ar ddyddiau Mawrth a Mercher, mae’r llyfrgell bellach ar agor am ddiwrnodau llawn drwy gydol yr wythnos.

Mae’r llyfrgell yn parhau i fod yn agored tan 7pm ar ddyddiau Mercher, ac yn agored ar foreau Sadwrn.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden: “Fel rhan o Strategaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Conwy 2021-2026, rydym yn bwriadu datblygu ein llyfrgelloedd yn Ganolbwyntiau Cymunedol sy’n darparu ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau. 

“Drwy ymestyn yr oriau agor yn Llyfrgell Llanrwst gobeithiwn y bydd mwy o bobl yn gallu manteisio ar y gwasanaethau ardderchog sydd ar gael. Rwy’n annog pawb i ymweld i gael gwybod mwy.” 

Oriau agor newydd Llyfrgell Llanrwst:

  • Dydd Llun                    9:30am-5pm
  • Dydd Mawrth             9:30am-5pm
  • Dydd Mercher             10am-7pm
  • Dydd Iau                     9:30am-5pm
  • Dydd Gwener              9:30am-5pm
  • Dydd Sadwrn              9:30am-12:30pm
  • Dydd Sul                      Ar gau
Wedi ei bostio ar 21/09/2022

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content