Gwnewch y mwyaf o amser bwyd yn yr ysgol Gynradd
Ysgol Pen y Bryn-284
Prydau Ysgol am Ddim i bob Disgybl Ysgol Gynradd
Mae rhieni’n cael eu hatgoffa y gallai plant sy’n mynd yn ôl i’r ysgol ym mis Medi wneud y mwyaf o amser bwyd drwy gael Prydau Ysgol am Ddim i bob Disgybl Ysgol Gynradd.
Mae pob disgybl yn ysgolion cynradd Conwy wedi gallu cymryd mantais o ginio ysgol am ddim ers mis Medi 2023, wedi i Lywodraeth Cymru gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i bob Disgybl Ysgol Gynradd.
Mae ysgolion cynradd Conwy yn darparu bwydlen iach, amrywiol, gyda dewisiadau bob dydd. Mae’r prydau’n bodloni’r safonau maeth a gwerthoedd egni a maetholion ar gyfer gofynion bwyd a diod yn ystod y diwrnod ysgol fel y nodir yn y Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2013.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy: “Mae mwyafrif y plant yn ysgolion cynradd Conwy yn cael cinio ysgol, sy’n bryd maethlon i’w helpu i ganolbwyntio ar eu dysgu. Gall y bwyd a weinir mewn ysgolion wneud cyfraniad cadarnhaol at roi diet iach a chytbwys i blant a phobl ifanc a’u hannog i ddatblygu arferion bwyta iach.”
Mae’r bwydlenni ar gyfer yr hydref ar gael ar wefan y Cyngor: Gwiriad Bwydlen Ysgolion Cynradd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 29/08/2025