Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cwrdd â'r gwartheg


Summary (optional)
start content

Cwrdd â'r gwartheg

Ar 4 Chwefror bydd cyfle i chi gwrdd â’r gwartheg sy’n pori yng ngwarchodfa natur Glan y Môr Elias yn Llanfairfechan.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 11am a 3pm.

Gwartheg yn pori - buddion i fywyd gwyllt

Mae gwartheg yn pori ar y tir hwn er mwyn helpu i reoli’r ardal er budd bywyd gwyllt.  Trefnir hyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r gwartheg tawel yma yn cael eu ffensio i mewn gan ddefnyddio ffensys rhithiol.

Tra rydych yn y warchodfa, rydym yn ddiolchgar i chi am gadw’ch ci ar dennyn neu o dan reolaeth agos er mwyn osgoi aflonyddu’r anifeiliaid.

Mae prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi cytuno i ariannu gwaith adfer glaswelltir yng Nglan y Môr Elias, bydd hyn yn cynyddu nifer o rywogaethau blodau brodorol a fydd yn manteisio ar bryfed sy’n peillio ac yn helpu darparu bwyd i fywyd gwyllt.

Bydd y glaswelltir yn cael ei grafu a’i hadu gan ddefnyddio gwair cyfoethog gwyrdd llawn rhywogaethau o ddolydd lleol i wella bioamrywiaeth y glaswelltir mewn rhannau ar draws y safle dros gyfnod o ddwy flynedd.  Dros amser bydd y safle cyfan yn gwella fel y mae’r planhigion yn dechrau hadu.

Mae enghreifftiau o laswelltir sy’n llawn rhywogaethau lleol i’w gweld ym Mhlas Newydd yn Ynys Môn, gwarchodfa RSPB Conwy a Gerddi Bodnant.

Mae gwartheg yn pori yn cael eu cyflwyno ym mis Ionawr. Mae gwartheg yr Ucheldiroedd yn pori Morfa Madryn bob blwyddyn ac yn treulio eu hafau yn Pori Cadwraeth yng Nghors Goch. Bwriad y pori yw torri’r gwair dwys a chreu cyfleoedd i blanhigion hadu. Bydd y baw gwartheg yn annog pryfed a fydd yn darparu bwyd i adar megis y Brain Coesgoch - gall tail gwartheg gefnogi hyd at 250 o rywogaethau o bryfed!

Bydd y gwartheg yn pori’r glaswelltir tan ddiwedd mis Chwefror, bydd y defaid yn pori’r draethlin gyfan rhwng mis Medi a mis Mawrth.

Bydd geofencing rhithwir dim ffens yn cael ei ddefnyddio i gadw gwartheg ar y glaswelltir a chaniatau cerddwyr i’w hosgoi os ydynt yn dymuno hynny. 

Mae’r system Nofence yn defnyddio Ap ffôn i ddiffinio ffin rithwir o amgylch yr ardal.

Mae’r anifeiliaid yn gwisgo coler gyda synhwyrydd arnynt sydd yn cysylltu â lloeren sydd yn rhoi lleoliad GPS yr anifail, ac mae’r rhwydwaith ffôn yn rhannu’r wybodaeth i ffôn symudol drwy’r ap. Mae’r uned coler yn cael ei bweru gan fatri, sydd yn cael ei wefru drwy baneli solar ar y cas. Pan fydd anifail yn cyrraedd y ffin, bydd signal clywadwy yn ei ganu a fydd yn cynyddu fel maent yn dod yn nes at y ffin, tan fyddant yn cael sioc trydanol. Mae’r anifeiliaid wedi’u hyfforddi ar y system hon gartref mewn cae ac yn dysgu’n sydyn i droi’n ôl pan fyddant yn clywed y sŵn cyn cael y sioc, dengys ymchwil bod lles yr anifail yn dda gan fod yr anifail yn dysgu ar ôl cael ambell sioc i droi’n ôl pan fyddant yn clywed y signal.

Gellir gosod y llinell ffin i beidio â chynnwys ardaloedd megis llethr perygl neu leoliadau lle mae planhigion prin. Gellir ei newid i symud y da byw i ardal ymgasglu cyfleus pan fydd angen eu casglu.

Mae’r elfen tracio GPS y system yn golygu y gellir lleoli anifeiliaid yn hawdd ar ap y ffôn wrth gadw golwg ar y stoc, ac os ydynt yn denig, bydd y rheolwr stoc yn cael rhybudd ac yn gallu dod o hyd iddynt.

Bydd y batri yn para am tua 3 mis ac mae panel solar yn helpu i’w wefru.

 

Wedi ei bostio ar 25/01/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content