Wythnos Genedlaethol Cartrefi Gwag
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Cartrefi Gwag (27 Chwefror i 5 Mawrth) mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i berchnogion eiddo gwag, yn cynnwys safleoedd masnachol, i helpu i ryddhau’r tai posibl.
Mae gan Gonwy oddeutu 1,700 o aelwydydd ar eu rhestr aros am bob math o eiddo. Ar unrhyw adeg, mae gan y sir oddeutu 2,500 o eiddo gwag mewn perchnogaeth breifat. Mae llawer o’r rhain yn wag dros dro a byddant yn dod yn ôl i ddefnydd o fewn ychydig fisoedd. Ond, bydd oddeutu 1,500 yn aros yn wag am fwy na 6 mis a llawer ohonynt yn wag am sawl blwyddyn, tra bo pobl yn cael trafferth dod o hyd i lety fforddiadwy yn yr ardal.
Mae’r Cyngor yn annog perchnogion eiddo gwag i gysylltu â nhw i ganfod pa gymorth allai fod ar gael iddynt i ddod â’r eiddo gwag, sy’n adnodd gwastraffus, yn ôl i ddefnydd.
Mae ystod o fentrau ar gael:
- Mae benthyciad gwella eiddo di-log o hyd at £35,000 ar gael ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy sydd angen gwaith i alluogi iddynt gael eu gwerthu neu eu rhentu ar ddiwedd y gwaith ailwampio.
- Mae grantiau o hyd at £20,000 ar gael i wneud gwaith ar eiddo sydd wedi bod yn wag am 6 mis. Ac i landlordiaid sy’n ystyried prynu eiddo sydd wedi bod yn wag am y cyfnod hwnnw, a fyddai’n fodlon rhentu’r eiddo i bobl sydd ag anghenion o ran tai, ar gyfradd fforddiadwy, am o leiaf 5 mlynedd.
- Mae cynlluniau prydlesu ar gael i eiddo gwag. Mae’r grantiau’n amrywio o £5,000 i £25,000 (yr uchafswm sydd ar gael os yw’r eiddo wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy) i gwblhau gwaith a nodwyd gan y Cyngor, yn gyfnewid am brydlesu’r eiddo (5 i 20 mlynedd). Lle bydd gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn cael ei gynnwys, y rhent wedi’i sicrhau a chymorth a rheolaeth lawn yn cael ei ddarparu i’r tenantiaid yn ystod y cyfnod hwnnw.
Meddai’r Cynghorydd Emily Owen, Aelod Cabinet Tai a Rheoleiddio, “Mae Tai yn effeithio ar bob agwedd o fywyd pobl. Trwy ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, gallwn helpu’r Cyngor i gyflawni’r nod bod pobl yng Nghonwy’n cael mynediad at lety fforddiadwy, priodol ac o ansawdd da”.
Am fwy o wybodaeth, gall perchnogion eiddo fynd ar wefan y Cyngor, neu gysylltu â Swyddogion Eiddo Gwag y Cyngor ar 01492 574633 neu 01492 574235 neu taigwag@conwy.gov.uk
Wedi ei bostio ar 27/02/2023