Munud o dawelwch cenedlaethol i nodi blwyddyn ers ymosodiad Rwsia ar Wcráin
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi munud o dawelwch cenedlaethol ddydd Gwener, 24 Chwefror am 11am i nodi blwyddyn ers ymosodiad llawn Rwsia ar Wcráin.
Disgwylir i’r Prif Weinidog, Rishi Sunak, arwain y genedl mewn tawelwch o Downing Street, ac mae’r Llywodraeth yn annog unigolion a sefydliadau ar draws y DU i gymryd rhan.
Meddai’r Cynghorydd Ifor Glyn Lloyd, Cadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Bydd y munud o fyfyrdod cenedlaethol hwn yn cynnig cyfle i gyhoedd y DU dalu teyrnged i ddewrder pobl Wcráin a dangos undod gyda’r wlad. Rwy’n gobeithio y bydd preswylwyr Conwy, p’run ai ydynt gartref, yn y gwaith neu gyda theulu a ffrindiau, yn ymuno â’r genedl gan rannu’r munud hwn o fyfyrdod.”
Mwy o wybodaeth yn: Munud o dawelwch cenedlaethol - Llywodraeth DU
Wedi ei bostio ar 21/02/2023