Contractwr newydd ar gyfer yr Uned Asesu Plant
Bydd y contract i adeiladu’r uned asesu is-ranbarthol newydd ar gyfer plant ym Mae Colwyn yn cael ei ddyfarnu i Wynne Construction Limited.
Cytunodd Cabinet Conwy i ddyfarnu’r contract iddynt ar 9 Mai 2023.
Bydd yr uned newydd, a gaiff ei henwi’n Bwthyn y Ddôl, yn lleoliad lle gellir gofalu am blant yn ddiogel, eu cefnogi a’u goruchwylio gan dîm preswyl, a lle mae plant a’u rhieni a’u gofalwyr yn gallu cwrdd â thîm therapiwtig ar y safle.
Cafodd y safle ei glirio yn 2020 ond cafodd y gwaith adeiladu ei oedi oherwydd anawsterau yn y diwydiant adeiladu.
Meddai’r Cynghorydd Liz Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu: “Mae’r diwydiant adeiladu wedi bod dan straen ofnadwy ers peth amser bellach, ac yn anffodus mae hynny wedi effeithio ar ein prosiect.
“Rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni wedi penodi contractwr newydd ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld y prosiect gwerth chweil hwn yn mynd rhagddo unwaith eto.”
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r prosiect wedi’i ariannu drwy Gronfa Gofal Integredig a Chronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru.
Ar ôl cwblhau’r prosesau cyfreithiol, bydd Wynne Construction Limited yn cychwyn gweithio ar y safle ym mis Mehefin; a rhagwelir y bydd y gwaith i godi Bwthyn y Ddôl yn cymryd 14 mis.
Wedi ei bostio ar 25/05/2023