"Noise App" wedi'i lansio yng Nghonwy
Caiff ‘The Noise App’ ei lansio yn Sir Conwy'r wythnos hon.
Byddwch yn dal i allu rhoi gwybod i’r cyngor am niwsans sŵn yn yr un ffordd ag arfer. Ond bellach, gall trigolion lleol sydd â ffôn clyfar neu lechen lawrlwytho Ap am ddim a'i ddefnyddio i gyflwyno tystiolaeth; cofnodi pan fo sŵn yn digwydd yn ogystal â recordio'r sŵn ei hun.
Nid yw’r ap yn disodli ymweliadau monitro sŵn gan swyddogion y cyngor sy’n pennu p'un a oes niwsans sŵn statudol neu beidio, ond mae’n ei gwneud hi’n haws i drigolion ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu honiadau.
Mae niwsans sŵn yn llawer mwy na dim ond niwsans ac yn llawer mwy na chlywed sŵn yn unig. Mae’n sŵn sylweddol ac afresymol sy’n cael effaith sylweddol ac afresymol arnoch chi.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Baker, Aelod Cabinet Conwy dros Wasanaethau Rheoleiddio, “Rydym yn gobeithio defnyddio technoleg i'w gwneud hi'n haws i drigolion lleol. Mae 'The Noise App' yn syml i'w ddefnyddio ac yn ei gwneud hi’n haws i gofnodi dyddiadau ac amseroedd; mae hefyd yn gallu recordio sŵn os yw pobl eisiau eu hanfon nhw atom ni yn electronig."
Gall y cyngor ymchwilio i niwsans sŵn a achosir gan gerddoriaeth, gwaith ‘DIY’, cerbydau neu gŵn yn cyfarth.
Gall unrhyw un sy'n pryderu am sŵn ddarganfod mwy ar wefan Conwy ar www.conwy.gov.uk/swnaniwsans
Nodiadau
Gall trigolion sydd â ffôn clyfar neu lechen lawrlwytho ‘The Noise App’ am ddim.
Gallwch lawrlwytho’r ap am ddim drwy ymweld â www.thenoiseapp.com neu chwiliwch ar y we am ‘The Noise App RHE’ ar Google Play neu’r Apple Store. Yna, bydd gofyn i chi wneud cyfrif i ddefnyddio’r Ap, sy’n eich caniatáu i greu recordiadau 30 eiliad a rhoi gwybod am sŵn ar-lein.
Wedi ei bostio ar 25/02/2019