Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion North Wales Choir Festival 2023

Gŵyl Gorau Gogledd Cymru 2023


Summary (optional)
start content

Gŵyl Gorau Gogledd Cymru 2023

Bydd Gŵyl Gorau Gogledd Cymru yn dychwelyd i Venue Cymru, Llandudno ar 4 a 5 Mawrth 2023. Bydd y cystadlaethau’n parhau fel yr arfer yn ystod y dydd ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul, gyda Chyngerdd Dathlu'r Ŵyl ar y nos Sadwrn.

Y categorïau cystadlu yw Corau Unllais a Chorau Cymysg ar y dydd Sadwrn, ac yna’r Lleisiau Ifanc a’r Categori Agored ar y dydd Sul. Cynhelir Cyngerdd Dathlu’r Ŵyl ar y nos Sadwrn am 7:30pm, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o gorau o bob dosbarth ac ambell westai arbennig. Bydd y cyngerdd yn ddathliad o’r canu corawl gorau o bob cwr i’r DU.   

Unwaith eto, mae trefnwyr yr Ŵyl yn llawn cyffro ynglŷn â dathlu Dydd Gŵyl Ddewi yn ogystal â’r Ŵyl Gorau, sy’n llawn diwylliant ac angerdd, ac maent yn croesawu wynebau cyfarwydd yn ogystal â rhai newydd i Venue Cymru ar 4-5 Mawrth 2023. 

Mae tocynnau ar werth o £8/£4 (oedolyn/plentyn) y categori ar gyfer penwythnos na fydd unrhyw un sy’n caru corau eisiau ei golli. Dyma un o nifer o brofiadau diwylliannol a gynigir gan Sir Conwy. I gael tocynnau neu ragor o wybodaeth, ewch i www.gwylgoraugogleddcymru.com

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gael trefnu Gŵyl Gorau Gogledd Cymru, a Sir Conwy yw’r amgylchedd iawn ar gyfer digwyddiadau gwych. 

Wedi ei bostio ar 24/01/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content