Gŵyl Gorau Gogledd Cymru, 4-5 Mawrth 2023
Bydd Gŵyl Gorau Gogledd Cymru yn dychwelyd i Venue Cymru, Llandudno ar 4 a 5 Mawrth 2023. Bydd y cystadlaethau’n parhau fel yr arfer yn ystod y dydd ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul, gyda Chyngerdd Dathlu'r Ŵyl ar y nos Sadwrn.
Y categorïau cystadlu yw Corau Unllais a Chorau Cymysg ar y dydd Sadwrn, ac yna’r Lleisiau Ifanc a’r Categori Agored ar y dydd Sul. A’r tri beirniad, Nia Morgan, Trystan Lewis a Rebecca Broadbere, fydd yn penderfynu pwy fydd yn gyntaf, ail a thrydydd.
Cynhelir Cyngerdd Dathlu’r Ŵyl ar y nos Sadwrn am 7:30pm, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o gorau o bob dosbarth ac ambell westai arbennig. Bydd y cyngerdd yn ddathliad o ganu o bob cwr i’r DU ac Iwerddon.
Unwaith eto, mae trefnwyr yr Ŵyl yn llawn cyffro ynglŷn â dathlu Dydd Gŵyl Ddewi yn ogystal â’r Ŵyl Gorau, sy’n llawn diwylliant ac angerdd, ac maent yn croesawu wynebau cyfarwydd yn ogystal â rhai newydd i Venue Cymru ar 4-5 Mawrth 2023.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rydym wrth ein boddau cael croesawu ymwelwyr i Ŵyl Gorau Gogledd Cymru yn Venue Cymru i ddathlu canu yn ogystal â diwrnod ein nawddsant cenedlaethol.
“Mae’r Ŵyl Gorau yn rhoi hwb i Landudno yn ystod misoedd y gaeaf; mae digwyddiadau’n hanfodol ar gyfer denu ymwelwyr i Sir Conwy a’i sefydlu fel cyrchfan ar gyfer y flwyddyn gron.”
Mae Cymru’n adnabyddus fel Gwlad y Gân, a bydd amrywiaeth o gorau’n perfformio yn y digwyddiad hwn, ond nid oes rhaid i chi fod mewn côr na chystadlu er mwyn gallu ymuno. Archebwch docyn i gael eistedd ac ymlacio yn y gynulleidfa.
Mae tocynnau ar werth o £8/£4 (oedolyn/plentyn). Dyma un o nifer o brofiadau diwylliannol a gynigir gan Sir Conwy. I gael tocynnau neu ragor o wybodaeth, ewch i www.gwylgoraugogleddcymru.com
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gael trefnu Gŵyl Gorau Gogledd Cymru, a Sir Conwy yw’r amgylchedd iawn ar gyfer digwyddiadau gwych.
Wedi ei bostio ar 14/02/2023