Wythnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol
Y dyddiad cau i gofrestru yw dydd Iau 14 Ebrill.
Gyda dim ond wythnos i fynd tan y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau lleol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn annog preswylwyr i wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.
Ddydd Iau 5 Mai bydd pleidleiswyr ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn mynd i’r pôl ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.
Gall unrhyw un nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio yn eu cyfeiriad cyfredol gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Dywedodd Iwan Davies, Swyddog Canlyniadau ar gyfer Conwy: “Gyda dim ond wythnos i fynd, mae amser yn brin i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau ar ddydd iau 4 Mai. Mae’r etholiadau hyn yn gyfle i gael dweud eich dweud ar bwy sy’n cynrychioli’r bobl leol ar faterion sy’n effeithio ar fywyd bob dydd yma ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Os nad ydych ar y gofrestr erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.”
Dyddiadau Pwysig
- Dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio: Dydd Iau 14 Ebrill 2022
- Dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post: 5pm ddydd Mawrth 19 Ebrill 2022
- Dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy: 5pm ddydd Mawrth 26 Ebrill 2022.
Wedi ei bostio ar 07/04/2022