Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Y newyddion diweddaraf am y Pyllau Padlo

Y newyddion diweddaraf am y Pyllau Padlo


Summary (optional)
start content

Y newyddion diweddaraf am y Pyllau Padlo

Cynhaliwyd cyfarfod hir yr wythnos diwethaf i drafod newid y grisiau ym mhwll padlo Llanfairfechan a pharatoi ar gyfer y llwybrau concrid newydd.  Fe fydd y gwaith yn dechrau dros y dyddiau nesaf, gan sychu a chaledu dros yr wythnos nesaf. Pan fydd yn barod, gallwn drefnu i’r haenau atal-llithro gael eu gosod.  Rydym wedi gofyn am ddiweddariadau wythnosol gan y contractwr.

Ym Mhenmaenmawr, rydym wedi cael cadarnhad bod yn rhaid cael gwared â’r teils mosäig gwreiddiol ar lawr ac ar waliau’r pwll padlo er mwyn gallu gosod yr haen atal-llithro.  Nid yw’r gwaith wedi dechrau ar y safle eto, fe fydd y contractwyr yn symud eu timau o amgylch unwaith y bydd Llanfairfechan yn barod ar gyfer yr haenau atal-llithro. 

Fe fydd haenau atal-llithro yn cael eu gosod ym Mhenmaenmawr a Llanfairfechan fel proses un safle er mwyn lleihau costau cymaint â phosibl. 

Yng Nghraig y Don y mae’r pwll padlo mwyaf, ac mae gweithwyr ar y safle wrthi’n  cael gwared ar yr hen haen/paent, yn ogystal â gosod deunydd uniad ehangu newydd lle mae’n ddiffygiol. Pan fydd y gwaith yma wedi’i gwblhau, fe fydd yr haenau newydd yn cael eu gosod.  Mae gwaith Dŵr Cymru sy’n gysylltiedig ag amddiffyn y prif gyflenwad dŵr angen cael ei gwblhau hefyd.  Mae gennym ni fân waith trwsio ar y grisiau i lawr i’r pwll padlo i’w gwblhau, gan fod y concrid gwreiddiol wedi dirywio yn rhai o’r mannau yma ac nid ydynt yn gallu derbyn yr haen atal-llithro yn ei gyflwr presennol.

Yn Llandrillo-yn-Rhos, mae’r Peiriannydd Strwythurol rydym wedi ei gomisiynu yn gweithio ar fanylion slab newydd i ni, yn sgil problemau dŵr daear treiddiol a allai effeithio ar yr haenau atal-llithro newydd.  Unwaith y bydd y slab wedi cael ei gymeradwyo, fe allwn gychwyn ar y gwaith.   Eto, rydym yn gobeithio y gallwn rannu’r gwaith gosod haenau atal-llithro gyda safle Craig y Don, ond mae’n dibynnu ar gwblhau’r slab concrid newydd a’i fod wedi sychu a chaledu digon mewn amser. 

Pan fydd y gwaith wedi cael ei gwblhau, fe fyddwn ni’n asesu’r safleoedd ac yna’n cyhoeddi beth fydd y dyddiadau agor.

 

Cefndir: Pyllau Padlo - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Wedi ei bostio ar 09/06/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content