Cludiant Addysg Ôl-16
Mae Cabinet Conwy wedi penderfynu y dylai dysgwyr 16 oed a hŷn wneud cyfraniad tuag at eu cludiant i’r ysgol neu’r coleg.
Mae’r Cyngor wedi bod yn darparu cludiant rhad ac am ddim am nifer o flynyddoedd i ddysgwyr 16 oed a hŷn sy’n mynychu ysgolion neu golegau dynodedig. Mae’r gwasanaeth disgresiwn hwn yn costio £420,000 y flwyddyn i Gonwy, ac mae’n cynyddu bob blwyddyn gyda chwyddiant. Oherwydd nad yw’n ofyniad statudol, ac nad yw Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw arian i’w gyllido, mae’n golygu bod rhaid dod o hyd i arian o rywle arall yn y gyllideb addysg.
Yr wythnos diwethaf (09/10/18), trafododd Aelodau’r Cabinet ddewisiadau a fyddai’n galluogi’r gwasanaeth i barhau’n fwy cynaliadwy.
Meddai’r Cyng Garffild Lewis, Aelod Cabinet Addysg a Sgiliau Conwy: “Nid oeddem am roi’r gorau i ddarparu’r cludiant – mae’n wasanaeth hanfodol, yn enwedig i ddysgwyr sy’n byw yn yr ardaloedd gwledig, ond ni allwn gymryd cyllid o faes addysg arall i dalu amdano. Gofyn i fyfyrwyr wneud cyfraniad yw’r ffordd fwyaf teg o gadw’r gwasanaeth i redeg.”
Pleidleisiodd y Cabinet dros gyflwyno tâl am y gwasanaeth, ond gofynnwyd i swyddogion edrych ar daliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg a chymhwysedd am brydau ysgol am ddim i sicrhau bod ‘rhwyd ddiogelwch’.
Ychwanegodd y Cyng Garffild Lewis, “Hoffem ddiolch i bawb a dreuliodd amser wrth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Mae’r adborth wedi bod yn werthfawr ac wedi’n helpu i wneud penderfyniad deallus o ran sut gallwn sicrhau bod Cludiant Addysg Ôl-16 yn fwy cynaliadwy.”
Ni fydd y newid yn dod i rym tan fis Medi 2020.
Wedi ei bostio ar 18/10/2018