Parc Princes Green, Bae Penrhyn: Gwelliannau
Gwaith yn dechrau: 22 Chwefror 2021
Gwaith yn dod i ben: 19 Mawrth 2021 (yn dibynnu ar y tywydd)
Beth sy’n digwydd?
Rydym ni’n gwella Parc Princes Green drwy ledu’r llwybrau troed a gosod goleuadau newydd.
Yn ystod y gwaith bydd y mynedfeydd canlynol i’r parc ar gau:
- Grisiau o Penrhos Drive
- Bryn View Road
- Garden Drive
- Maes parcio’r siop bysgod a sglodion
Bydd y llwybr troed o Llandudno Road i Bryn View Road ar agor.
Byddwn hefyd yn gosod ardal chwarae gyda ffens o’i amgylch yn y Gwanwyn. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, byddwn yn tynnu’r offer chwarae presennol yr un pryd â’r gwaith llwybr. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Covid-19
Bydd ein contractwr yn cydymffurfio â chanllawiau COVID 19 cyfredol. Parchwch y rheolau cadw pellter cymdeithasol o 2m a pheidiwch â mynd at y gweithlu.
Cwestiynau?
Os byddwch chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.
Wedi ei bostio ar 17/02/2021