Prom a Mwy 2023
Mae Prom a Mwy yn ddigwyddiad i’r teulu a gynhelir dydd Sadwrn, 13 Mai 2023 ar hyd promenâd Bae Colwyn.
Mae gan Prom a Mwy lawer o weithgareddau AM DDIM i ddiddanu’r teulu. Hefyd, ffair i bawb sy’n hoffi sgrechian, stondinau i’r rheiny sy’n mwynhau siopa, adloniant i bawb, ac wrth gwrs byddwn yn gwneud y gorau o’n traeth hyfryd.
Bydd ein stondinau, elusennau ac arddangoswyr o amgylch y safle, gydag amrywiaeth eang o ddanteithion blasus i anrhegion hyfryd a mwy.
Os oes unrhyw fusnes, arddangoswyr neu elusennau a fyddai’n dymuno gwneud cais am le gwag eleni, yna gellir cael rhagor o wybodaeth yn Prom a Mwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy llenwch a dychwelwch y ffurflen gais ar-lein erbyn dydd Gwener 14 Ebrill 2023.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ein digwyddiadau, dilynwch ni ar Digwyddiadau Conwy | Facebook a Trydar Digwyddiadau Conwy (@DigwyddiadConwy) / Twitter gan gynnwys y newyddion diweddaraf ar Prom a Mwy gan fod gennym fwy o weithgareddau i’w cyhoeddi!
Wedi ei bostio ar 21/03/2023