Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Rag 'N' Bone Man announces massive North Wales Concert

Rag 'N' Bone Man yn cyhoeddi cyngerdd anferth yng Ngogledd Cymru


Summary (optional)
start content

Rag 'N' Bone Man yn cyhoeddi cyngerdd anferth yng Ngogledd Cymru

Heddiw, mae Rag‘n’Bone Man sydd wedi ennill gwobr BRIT dair gwaith, wedi cyhoeddi sioe enfawr ym Mae Colwyn yr haf nesaf. Fe fydd canwr poblogaidd ‘Human’ a ‘Life By Misadventure’ yn perfformio yn STADIWM CSM, dydd Sul 23 Gorffennaf 2023.

Fe fydd y tocynnau’n mynd ar werth am 10am dydd Gwener 20 Ionawr trwy  gigantic.com

Gall cefnogwyr gofrestru i gael mynediad cynnar drwy’r hyrwyddwr gwerthiant cynnar arbennig yma: https://mailchi.mp/orchardlive/ragnboneman-aae

Daeth Rag‘n’Bone Man – neu Rory Graham – i enwogrwydd yn 2016 pan ryddhaodd o y gân boblogaidd fyd-eang Human oedd yn dangos cyfuniad arbennig o gerddoriaeth blues traddodiadol, hip-hop, ac wrth gwrs, llais anhygoel i ddiffinio’r cyfnod.

Dechreuodd Rory gael cefnogwyr ymroddedig yn gynnar iawn yn ei yrfa, ac mae hyn wedi parhau i dyfu gyda phob tocyn yn cael ei werthu mewn sioeau ar draws y byd.

Ar ôl iddo ennill gwobr ‘British Breakthrough Act’ yn seremoni’r BRIT’s yn 2017, a derbyn ‘Critics Choice Award’ BRIT’s yn yr un flwyddyn, coron ar y llwyddiant i Graham oedd rhyddhau ei albwm gyntaf 4x platinwm aeth i rif un ac a dorrodd recordiau, sef Human.

Yna enillodd nifer o wobrau rhyngwladol yn ogystal â Gwobr BRIT’s arall ar gyfer gwobr ‘Best Single of the Year’ ar gyfer Human.

Mae Life by Misadventure, ail albwm Graham gyda Columbia Records i fynd i Rif Un a ddaeth allan ym mis Mai 2021 ac a dreuliodd 7 wythnos yn y 10 Uchaf, yn benllanw mwy na blwyddyn a dreuliodd yn ysgrifennu a gweithio gyda rhai o fawrion y byd cerddoriaeth yn Llundain a Nashville.

Roedd yna ymdeimlad newydd o bwrpas i’r albwm ac egni cwbl newydd mewn senglau megis All You Ever Wanted, Anywhere Away From Here, Alone a Crossfire.

Caiff y sioe ei lwyfannu gan Orchard Live, gan gwblhau penwythnos gwych o gerddoriaeth gyda MINISTRY OF SOUND CLASSICAL nos Wener 21ain ac N-Dubz nos Sadwrn 22ain.

Dywedodd Connor Cupples o Orchard Live: “Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein sioe olaf ar gyfer Access All Eirias 2023 gyda thalent arbennig, sef Rag ‘n’ Bone Man.  Fe fydd yna benwythnos anhygoel o gerddoriaeth yn dod i Fae Colwyn fis Gorffennaf yma!’’


Wedi ei bostio ar 16/01/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content