Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau
Ar 30 Tachwedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog becyn cymorth o £340m wedi ei anelu’n bennaf at y sectorau cadwyn gyflenwi’n ymwneud â lletygarwch, twristiaeth a hamdden.
Yn dilyn cyhoeddi cyfyngiadau pellach o 19 Rhagfyr, mae pecyn cymorth y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau wedi ei gwella gyda phecyn ychwanegol o £270m i gynnwys busnesau manwerthu dianghenraid gafodd eu gorfodi i gau.
Mae’r gronfa’n cynnwys dau grant gwahanol:
- Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau – Grant Ardrethi Annomestig
- Y Gronfa i Fusnesau Dan Gyfyngiadau - Grant Dewisol
Bydd canllawiau newydd a ffurflenni cais ar y we ar gael ddechrau mis Ionawr. Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf a’r ffurflen newydd ar y we (pan fydd yn barod) ar gael yn Y Gronfa i Fusnesau Dan Gyfyngiadau (conwy.gov.uk)
Mae’r cynllun yn parhau heb ei newid ar gyfer Lletygarwch a Thwristiaeth, hamdden a busnesau cadwyn gyflenwi a gellir darganfod mwy o wybodaeth a ffurflenni cais ar y dudalen we uchod.
Wedi ei bostio ar 23/12/2020