Ffordd ar gau:Old Highway, Bae Colwyn
Ar gau o:Dydd Llun 01 Gorffennaf 2019 am 08:00
Ailagor:Dydd Gwener 5 Gorffennaf 2019 am 17:00
Beth sy’n digwydd?
Byddwn yn gwneud gwaith diogelwch coed ar ochr y ffordd yng Ngwarchodfa Natur Leol Coed Pwllycrochan. Bydd y gwaith yn digwydd rhwng 08:30 a 17:00 bob dydd.
Er mwyn i ni allu gwneud y gwaith yn ddiogel, bydd yr Old Highway ar gau rhwng Rhiw Road a Pwllycrochan Road.
Sut fydd hyn yn effeithio arnaf fi?
Ni fydd mynediad o Pen y Bryn Road ar ffordd yr Old Highway.
Ni fydd mynediad i gerddwyr ar hyd yr Old Highway nac ar hyd y llwybr coediog sydd ochr yn ochr â’r Old Highway.
Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y darn hwn o’r Old Highway o ddydd Llun 1 Gorffennaf ymlaen.
Cwestiynau?
Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cynghori ar:
affch@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575337.
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a diolch i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith diogelwch hwn.
Wedi ei bostio ar 21/06/2019