Ffordd ar gau: Pont Tal y Cafn, A470, Tal y Cafn
Ar gau o: 8:00 ddydd Llun 25 Chwefror 2019
Yn ailagor: 16:00 ddydd Gwener 29 Mawrth 2019
Mae angen i ni wneud gwaith atgyweirio pwysig ar Bont Tal y Cafn sy’n golygu cau’r bont am bum wythnos i gerbydau a cherddwyr. Rydym yn deall bod hyn yn creu anghyfleustra ond mae’n bwysig sicrhau bod y bont yn ddiogel.
Beth sy’n digwydd?
Mae angen gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y bont. Mae hyn yn cynnwys:
- Gosod wyneb gwrth-ddŵr newydd ar y dec concrit
- ailosod uniadau
- uwchraddio’r draeniau
- trwsio’r concrit
- ail-wynebu
Bydd llwybr gwyro arall gydag arwyddion ar gael.
Ni fydd y gwaith yn rhwystro mynediad i dafarn Tal y Cafn.
Pwy sy’n gwneud y gwaith?
Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan M W T Civil Engineering.
Cwestiynau?
Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575337.
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.
Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn.
Wedi ei bostio ar 19/02/2019