Rhoi wyneb newydd i ffordd: Ffordd y Môr, Abergele
Gwaith yn dechrau: Dydd Mercher 3 Mawrth 2021
Gwaith yn dod i ben: Dydd Gwener 5 Mawrth 2021 (yn dibynnu ar y tywydd)
Mae’n bleser gennym roi gwybod i chi fod y Cyngor wedi blaenoriaethu Ffordd y Môr er mwyn gwneud gwelliannau i arwyneb y ffordd.
Beth sy’n digwydd?
Rydym yn rhoi wyneb newydd ar ran o Ffordd y Môr, o Alexandra Road i Min y Don Road. Bydd y ffordd ar gau wrth i ni wneud y gwaith hwn. Bydd arwyddion yn cael eu gosod i’ch arwain ar hyd y ffyrdd eraill.
A fydd hyn yn effeithio ar barcio?
Bydd – ni fydd modd parcio ar y adran hon o Ffordd y Môr tra byddwn yn ymgymryd â’r gwaith hwn.
Covid-19
Bydd ein contractwr yn cydymffurfio â’r canllawiau Covid-19 cyfredol. Parchwch y rheolau cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr a pheidiwch â mynd yn agos at y gweithlu.
Beth yw rhoi wyneb newydd?
Rydym yn rhoi wyneb newydd ar ffordd pan nad oes modd atgyweirio’r haen wyneb.
Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio yw’r enw ar hyn)
Cam 2 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol
Cam 3 – gosod haen bondio, i sicrhau bod yr wyneb newydd yn glynu
Cam 4 – gosod yr wyneb newydd
Cam 5 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd yn defnyddio rholeri
Cam 6 – ailbeintio’r marciau ffordd
Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn waith swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Bydd y wyneb ffordd newydd yn rhoi ffordd fwy llyfn a thawel a bydd yn fantais hirbarhaol i’r gymuned.
Cwestiynau?
Os byddwch chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith hwn.
Wedi ei bostio ar 18/02/2021