Browser does not support script.
Bydd gwaith ymchwilio twll turio yn cael ei gynnal ar y morglawdd a’r wal gynnal uwch ar safle’r hen bier ym Mae Colwyn ddydd Iau a dydd Gwener.
Mae’r prawf yn rhan o baratoadau ar gyfer adeilad a phier cwta newydd, a oedd yn un o amodau adeilad rhestredig a osodwyd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Nod y gwaith archwilio yw penderfynu proffil wyneb cefn y wal a dyfnder y sylfaen.
Y contractwr yw Colin Jones (Rock Engineering) Ltd.
Pier Fictoria (Cofnodion y Cyngor): http://modgovcym.conwy.gov.uk/mgAi.aspx?ID=71862