Gŵyl banc Angladd Gwladol: Gwasanaethau'r Cyngor
Bydd dydd Llun, 19 Medi yn ŵyl banc i nodi angladd Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II.
Bydd eiddo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynghau. Mae hyn yn cynnwys swyddfeydd y Cyngor, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, ysgolion, toiledau cyhoeddus, canolfannau ailgylchu gwastraff cartref, canolfannau gwybodaeth twristiaeth, Venue cymru a Thramffordd y Gogarth.
Bydd Theatr Colwyn yn agor i’r sawl yn y gymuned sy’n dymuno gweld yr Angladd Gwladol gydag eraill.
Bydd yna hefyd newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff yr wythnos nesaf, dim casgliadau ddydd Llun. Bydd holl gasgliadau ar draws y sir yn digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer.
Bydd eiddo’r Cyngor yn gweithredu fel arfer o ddydd Mawrth, 20 Medi.
Nodiadau :
Mwy o wybodaeth am y trefniadau yn Theatr Colwyn - i’w gadarnhau.
Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff: Dim casgliadau ddydd Llun, 19 Medi 2022. Yr wythnos nesaf (19-24 Medi ) bydd holl gasgliadau yn cael eu cynnal un diwrnod yn hwyrach na’r arfer. Bydd casgliadau dydd Llun yn cael eu cynnal ddydd Mawrth; casgliadau dydd Mawrth yn cael eu cynnal ddydd Mercher; casgliadau dydd Mercher ar ddydd Iau; casgliadau dydd Iau ar ddydd Gwener a chasgliadau dydd Gwener ar y dydd Sadwrn.
Wedi ei bostio ar 14/09/2022