Cefnogaeth i ymgyrch Nofio Cymru
Mae’r Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden yn cefnogi ymgyrch genedlaethol Achub ein Pyllau.
Mae Nofio Cymru yn galw am ddiogelu cyfleusterau trwy annog Llywodraeth Cymru i gydnabod sefyllfa fregus pyllau nofio a chanolfannau hamdden, gan ddarparu pecyn o gymorth ariannol wedi’i glustnodi y tu hwnt i’r Setliad Terfynol Llywodraeth Leol i sicrhau bod pyllau’n parhau ar agor.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, “Er nad oes risg i byllau Conwy ar hyn o bryd, credaf ei bod hi’n bwysig i ni ymuno a chefnogi’r diwydiant a’r cyfleusterau pwysig hyn ar draws y wlad.”
Dywedodd y Cynghorydd Wynne, “Fel deiliad portffolio hamdden, rwy’n deall pwysigrwydd y cyfleusterau hyn i’n cymunedau, a hefyd yn gwybod bod costau ynni uchel yn cael effaith enbyd ar y cyfleusterau hyn.
“Yn fwy cyffredinol, mae pyllau nofio a chanolfannau hamdden yn chwarae rhan allweddol o ran cadw pobl yn egnïol ac iach, gan leihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
“Ni allwn anwybyddu effaith costau ynni cynyddol, felly dyna pam rwyf yn cefnogi’r ymgyrch hon. Rwy’n annog unigolion a chlybiau nofio ar draws y rhanbarth i gymryd rhan.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch genedlaethol, ewch i wefan Nofio Cymru: www.swimwales.org/cy/
Wedi ei bostio ar 25/01/2023