Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Masnachwr yn Euog trwy Ymhoniad Anwir

Masnachwr yn Euog trwy Ymhoniad Anwir


Summary (optional)
start content

Masnachwr yn Euog trwy Ymhoniad Anwir

Conwy CBC Logo RGB

Yn Llys y Goron Caernarfon ar 15 Ebrill 2026, plediodd Joseph Thomas sy’n masnachu fel C & J Roofing and Building yn euog i Adran 2 Deddf Twyll 2006, sef twyll trwy ymhoniad anwir.

Yn 2024, fe gysylltodd dyn mewn oed o Lanelian â Mr Thomas, yn gofyn iddo wneud gwaith trwsio ar y cwteri tu allan.  Fe fynnodd Joseph Thomas fod amryw o bethau eraill angen eu gwneud hefyd: cael gwared ar eiddew, torri coed a gosod ffens ar ochr yr eiddo.

Fe fynnodd Mr Thomas daliad o £17,000 am y gwaith - sieciau am £5,000 a £7,000, a throsglwyddiad banc o £5,000. Roedd y dioddefwr 84 mlwydd oed yn teimlo bod yn rhaid iddo dalu.

Ar ôl derbyn cwyn, fe ddefnyddiodd Safonau Masnach Conwy arolygwr annibynnol i asesu’r gwaith a rhoi pris o faint ddylai’r gwaith fod wedi’i gostio.  Daeth adroddiad yr arolygwr annibynnol i’r casgliad mai £6432.56 ddylai’r gwaith a wnaed fod wedi’i gostio, gan olygu fod y dioddefwr wedi gor-dalu £10,567.44.

Cafodd yr achos ei ohirio er mwyn paratoi adroddiad cyn dedfrydu, ac mae dyddiad ar gyfer dedfrydu wedi’i drefnu ar gyfer 21 Mai 2026.

Meddai Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Victoria Stevenson:

“Fel Awdurdod Lleol, mae dyletswydd gofal arnom i ddiogelu ein preswylwyr. Mae’r canlyniad hwn yn amlygu’r gwaith caled gan Swyddogion Safonau Masnach Conwy wrth weithredu’r rheoliadau i ddiogelu defnyddwyr Conwy.

“Rydym ni’n benderfynol o fynd i’r afael â throseddau stepen y drws a sicrhau bod y masnachwyr diegwyddor yma’n meddwl ddwywaith cyn targedu preswylwyr diamddiffyn yn Sir Conwy.”

 

Awgrymiadau Defnyddiol:

Peidiwch â chytuno i waith trwsio yn y fan a’r lle:

Peidiwch â gwneud penderfyniadau byrbwyll. Siaradwch efo rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt cyn gwneud penderfyniad.

Peidiwch â cholli eich hawliau: Peidiwch â llofnodi unrhyw beth yn y fan a’r lle:

Mae gennych 14 diwrnod i ganslo unrhyw bryniannau dros £42 yr ydych yn eu gwneud yn eich cartref.  Os bydd rhywun yn gwrthod rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi yn dweud sut ac i bwy y dylech gyflwyno eich dymuniad i ganslo - byddant yn cyflawni trosedd.

Byddwch yn wyliadwrus o gynigion arbennig neu rhybuddion bod eich cartref yn anniogel:

Fel arfer ni fydd yn gynnig mor arbennig â hynny, a ddylech chi ddim cynhyrfu - pam nad oes unrhyw un arall wedi sylwi bod eich cartref yn beryglus?

Cytunwch ar y pris, y trefniadau talu a’r dyddiadau dechrau/darfod yn ysgrifenedig cyn i unrhyw waith ddechrau yn eich cartref:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwbl fodlon â’r gwaith cyn gwneud y taliad llawn.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo, yn pryderu am fasnachwr neu os oes gennych unrhyw amheuon, ffoniwch:

Heddlu Gogledd Cymru: 101 (Os ydych yn teimlo dan fygythiad gan unrhyw werthwr stepen drws, dylech gau'r drws a ffonio rhif argyfwng yr Heddlu 999).

Gwasanaethau Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth:  0808 223 1144 (Cymraeg) 0808 223 1133 (Saesneg)

Gall masnachwyr sydd eisiau rhagor o gyngor gysylltu â Safonau Masnach Conwy drwy ffonio 01492 574110 neu ewch i www.conwy.gov.uk/safonaumasnach neu ConwyTS@Facebook.com

Wedi ei bostio ar 21/04/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content