Gwaith Lliniaru Llifogydd Trefriw
FFORDD AR GAU Trefriw i Ddolgarrog B5106
- Dydd Llun 2 – Dydd Gwener 6 Medi
- Dydd Llun 9 – Dydd LLun 16 Medi
Rydym yn dal i weithio i wella’r draenio ar y B5106 fel rhan o gynllun lliniaru llifogydd Trefriw.
Ein safle nesaf fydd gogledd Coed Gwydir, lle byddwn yn gwneud y geuffos yn fwy a sythu’r gilfach.
Yn ystod y gwaith bydd y rhan hon o’r ffordd ar gau. Dilynwch y gwyriad.
Pan fydd y ffordd ar gau, bydd gwasanaeth bws 19 yn mynd I Drefriw(cyn belled â’r Gofeb/Y Felin Wlân) ond ni fydd yn mynd yn ei flaen wedyn i Ddolgarrog.
Mae gwasanaeth tacsi ar gael rhwng Dolgarrog a Thy’n-y-Groes i’r rheiny sy’n teithio ar y bws, 7am - 7pm. I archebu’ch sêt, ffoniwch 01492 642422.
Ynglŷn â'r prosiect: Lliniaru llifogydd Trefriw - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 28/08/2024