Hwb i Deledu Cylch Cyfyng yng Nghonwy drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin
CCTV ARC
Gwasanaeth CCTV ym Mae Colwyn
Mae Gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael £375,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol fel tipio anghyfreithlon, fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Defnyddiwyd cyllid o’r gronfa o’r blaen i brynu deuddeg o gamerâu cylch cyfyng newydd i’w hychwanegu i’r rhwydwaith. Wrth weithio â phobl leol, gallwn symud y camerâu hynny i fannau penodol er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sy’n effeithio fwyaf ar gymunedau.
Bydd y cyllid diweddaraf yn galluogi’r Cyngor i benodi mwy o weithredwyr Teledu Cylch Cyfyng a chynorthwyo dau o swyddogion gorfodi Gwarchod y Cyhoedd i gynnal mwy o ymchwiliadau a chanolbwyntio ar droseddwyr mynych ac ardaloedd lle troseddir yn aml.
Meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth, yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddio: “Rydw i ar ben fy nigon ein bod wedi gallu sicrhau’r cyllid yma a fydd yn ein galluogi i fynd i’r afael a phroblemau ochr yn ochr â’n cymunedau. Bydd y tîm hefyd yn defnyddio’r amser i ganolbwyntio ar hybu elfennau masnachol o’r Gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng er mwyn diogelu’r gwasanaeth i’r dyfodol.
Meddai’r Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Isadeiledd, Cludiant a Chyfleusterau: “Rydw i’n frwdfrydig iawn am y prosiect yma a’r buddion y bydd yn eu creu i bobl Conwy. Rydyn ni’n gwybod fod monitro ardaloedd yn effeithiol efo Teledu Cylch Cyfyng yn helpu i warchod adeiladau, isadeiledd y gymuned a mannau agored, sy’n golygu eu bod nhw’n dal yn lleoedd diogel a braf i bobl Conwy eu mwynhau nhw.”
Wedi ei bostio ar 09/07/2025