Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Annog pleidleiswyr i gofrestru cyn ei bod hi'n rhy hwyr

Annog pleidleiswyr i gofrestru cyn ei bod hi'n rhy hwyr


Summary (optional)
start content

Annog pleidleiswyr i gofrestru cyn ei bod hi'n rhy hwyr

Cofrestru i bleidleisio

Cofrestru i bleidleisio

Gydag ond wythnos i fynd tan y dyddiad cau ar gyfer cofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai, dylai unrhyw un sydd am bleidleisio wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw ganol nos ddydd Llun 20 Ebrill. Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae’n cymryd pum munud yn unig.

Ar ôl iddynt gofrestru, bydd gan bleidleiswyr ystod o ddewisiadau – gallant bleidleisio’n bersonol, trwy’r post, neu drwy benodi rhywun maent yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy.

I bleidleisio yn yr etholiad hwn mae’n rhaid eich bod yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod y bleidlais ac yn preswylio yng Nghymru.

Ni fydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.

  • Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw ganol nos ar 20 Ebrill.
  • Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar 21 Ebrill.
  • Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 28 Ebrill.

Byddwch yn cael Cerdyn Pleidleisio yn y post, yn dweud wrthych pryd a ble rydych chi'n pleidleisio. At ddibenion gwybodaeth yn unig y mae'r cerdyn, felly peidiwch â phoeni os byddwch chi'n ei golli neu'n anghofio ei gymryd gyda chi. Gallwch bleidleisio hebddo cyn belled â bod eich enw ar y gofrestr etholiadol.

Mae gwybodaeth glir a dibynadwy am gofrestru i bleidleisio a'ch holl opsiynau pleidleisio i'w gweld yn: www.electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisio-ac-etholiadau

Am wybodaeth ynghylch etholiad y Senedd ewch i: https://bwrwpleidlais.cymru/

Wedi ei bostio ar 13/04/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content