Wythnos Croeso i Dy Bleidlais
Mae hi’n Wythnos Croeso i Dy Bleidlais.
Caiff Wythnos Croeso i Dy Bleidlais ei threfnu gan y Comisiwn Etholiadol, a’r nod yw dechrau’r sgwrs gyda phobl ifanc am ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth.
Y thema eleni yw ‘Ein Democratiaeth’ ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwahodd ysgolion i gymryd rhan i helpu i ddangos i bobl ifanc sut mae gwleidyddiaeth a democratiaeth yn cael effaith ar bopeth o’u hamgylch. O ba mor hir byddwch chi’n aros mewn addysg, i reolau rhentu, o argaeledd 5G, i ba mor aml caiff eich bin ei gasglu.
Mae’r ymgyrch wedi’i anelu at blant a phobl ifanc 14 i 16 oed, yn ogystal â rhai hŷn yn eu harddegau mewn ysgolion a cholegau, a’r nod yw cynyddu nifer y bobl sy’n cofrestru i bleidleisio ac yn cymryd rhan yn etholiadau lleol Llywodraeth Cymru.
Meddai Rhun ap Gareth, Swyddog Canlyniadau Conwy: “Mae mwy o bobl yn gallu pleidleisio yng Nghymru nag erioed. Gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Senedd a’r cyngor lleol. Nid oes ots lle cawsoch eich geni na beth yw eich cenedligrwydd, cyn belled â’ch bod chi’n breswyliwr yng Nghymru.
“Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cynhyrchu adnoddau am ddim i ysgolion, athrawon a dysgwyr i ddarparu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc i greu newid yn eu cymunedau. Bydd hyn yn rhoi’r hyder iddynt bleidleisio, a deall fod eu pleidlais yn bwysig.”
Fe fydd wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2023 yn cael ei chynnal o ddydd Llun 30 Ionawr i ddydd Sul 5 Chwefror.
Dolen: Croeso i dy bleidlais | Electoral Commission
Wedi ei bostio ar 30/01/2023