Cynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru
Dechreuodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wneud taliadau o £150 y Cynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth i breswylwyr yr wythnos hon.
Mae dros 24,000 o daliadau wedi cael eu prosesu’r wythnos hon, a bydd preswylwyr cymwys sydd yn talu Treth y Cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol yn dechrau derbyn y taliad yr wythnos nesaf.
I’r rheiny sydd ddim yn talu Treth y Cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol, mae’r Cyngor yn rhagweld darparu dull iddynt dderbyn eu taliad ym mis Mehefin.
Mae’r taliad yn cael ei wneud i breswylwyr gydag eiddo ym mandiau Treth Cyngor A-D ac hefyd i’r rheiny a oedd yn cael cymorth drwy’r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar 15 Chwefror 2022, beth bynnag yw band prisio eu heiddo.
Nodyn:
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Taliadau Cymorth Costau Byw
Wedi ei bostio ar 20/05/2022