Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Work begins on Penrhyn Bay coastal defences

Gwaith yn dechrau ar amddiffynfeydd arfordirol Bae Penrhyn


Summary (optional)
start content

Gwaith yn dechrau ar amddiffynfeydd arfordirol Bae Penrhyn

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi y bydd gwaith i wella amddiffynfeydd arfordirol Bae Penrhyn yn dechrau’r wythnos nesaf.

Mae’r cynllun yn cynnwys adeiladu grwyn cerrig siâp ‘T’ ac ailgyflenwi cerrig mân ar y traeth i amddiffyn yr amddiffynfeydd presennol a’r promenâd. 

Bydd y traeth ar gau i’r cyhoedd er mwyn cwblhau’r gwaith hwn yn ddiogel. Disgwylir y bydd y gwaith yn para am oddeutu 10 mis, ond bydd rhannau o’r traeth yn ailagor i ddarparu mynediad i’r cyhoedd wrth iddynt gael eu cwblhau. 

Bydd gwelliannau yn cael eu gwneud i fannau cyhoeddus hefyd, gan roi wyneb newydd ar ardal y promenâd, a seddi a rheiliau llaw newydd.  Bydd y lle parcio yn cael ei symud gyferbyn â mynedfa Clwb Golff Rhos, gyda chroesfan newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr rhwng Ffordd Maes Gwyn a Ffordd Pendorlan.

O ddydd Llun 23 Ionawr, bydd llwybr promenâd Bae Penrhyn ar gau am 5 mis.  Bydd y llwybr troed a’r llwybr beics yn cael eu gwyro a bydd rheolaeth traffig ar waith ar hyd Ffordd Glan-y-Môr.

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd: “Mae amddiffynfeydd arfordirol yn bwysig i amddiffyn ein cymunedau rhag bygythiad cynyddol newid hinsawdd, codiad yn lefel y môr a stormydd.  Mae’r gwaith hwn yn rhan annatod o strategaeth amddiffyn yr arfordir y Cyngor, a bydd o fudd i drigolion Bae Penrhyn am amser hir i ddod.”

Mae Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol Llywodraeth Cymru yn ariannu 85% o'r gwaith, a fydd yn costio £7.5 miliwn, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ariannu'r 15% arall.

Bae Penrhyn - Gwelliannau i Amddiffynfeydd Arfordirol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

 

Wedi ei bostio ar 19/01/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content