Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Arddangosfa Ysgol Aberconwy'n Archwilio Hunaniaeth, Perthyn a Gwrth-hiliaeth

Arddangosfa Ysgol Aberconwy'n Archwilio Hunaniaeth, Perthyn a Gwrth-hiliaeth


Summary (optional)
start content

Arddangosfa Ysgol Aberconwy'n Archwilio Hunaniaeth, Perthyn a Gwrth-hiliaeth

Arddangosfa Exhibition 1

“Beth sydd ganddo i’w wneud â mi?”

Ar ddydd Iau 26 Chwefror, dadorchuddiodd Ysgol Aberconwy arddangosfa bwerus newydd yng nghyntedd Prif Swyddfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Coed Pella. Mae “Beth sydd ganddo i’w wneud â mi?” yn arddangos archwiliad creadigol blwyddyn o hyd i wrth-hiliaeth, hunaniaeth a pherthyn. Wedi’i ddatblygu trwy weithdai gyda’r Athro Charlotte Williams a’r artist Mfikela Jean Samuel, mae’r arddangosfa yn dod a gwaith dysgwyr ar draws Blwyddyn 7 i 13 ynghyd ac yn adlewyrchu ymrwymiad yr ysgol i’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Dechreuodd y prosiect gyda chwestiwn a glywir yn aml mewn trafodaethau am hiliaeth: “Beth sydd ganddo i’w wneud â mi?” Trwy annog myfyrwyr i archwilio’r cwestiwn hwnnw trwy brofiadau byw, creu, dweud stori a gwrando, trawsnewidiodd y prosiect ddysgeidiaeth yn y dosbarth i archwiliad dyfnach o gynefin, cymuned a thegwch.

Dywedodd un o ddisgyblion Ysgol Aberconwy sydd yn rhan o’r sioe: “Fe wnaethom ni fwynhau’r prosiect hwn yn fawr gan ei fod yn gyfle i ni rannu ein hanes a hefyd, gan ei fod yn gynhwysol i bawb a dyna’n union mae gwrth-hiliaeth ei angen”

Cafodd yr arddangosfa ei agor yn ffurfiol gan Rhun ap Gareth, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ynghyd â Mr Ian Gerrard, pennaeth Ysgol Aberconwy, a Paul Sampson, Curadur yn Oriel Colwyn. Yno hefyd oedd yr athrawon a disgyblion dawnus a greodd y gwaith celf, yn ogystal ag aelodau o staff Cyngor Conwy, oll ynghyd i ddathlu’r cyflawniadau creadigol oedd i’w gweld.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Aberconwy, Ian Gerrard: “Beth sydd ganddo i’w wneud â mi? Dyma gwestiwn mae pobl yn gofyn yn aml pan drafodir hiliaeth. Gall deimlo’n anghyfforddus, pell, fel problem rhywun arall. Nod y prosiect wrth gwrs, yw herio’r ymateb hwnnw. Oherwydd pan fydd rhywun yn teimlo wedi’u heithrio, eu hanwybyddu neu nad ydynt yn perthyn, mae hyn yn ymwneud â ni oll. Mae ein myfyrwyr wedi agor y drws i ni. Y cwestiwn yw a ydym yn barod i gamu drwyddo.”

Dywedodd Paul Sampson, Curadur Oriel Colwyn: “Mae wedi bod yn bleser gweithio ar y prosiect hwn. Mae wedi agor sgwrs mewn ffordd sy’n teimlo’n ddiogel ac yn gynhwysol ac wedi galluogi rhyddid i archwilio testun anodd trwy greadigrwydd.”

Mae’r prosiect wedi cael ei gefnogi gan gyfraniadau hael gan CREST, Bryson Recycling a phartneriaid eraill, gan alluogi myfyrwyr i weithio gyda deunyddiau a thechnegau proffesiynol.

Ewch i weld yr arddangosfa yng Nghoed Pella rhwng 9am-5pm, dydd Llun i ddydd Gwener cyn iddo gau ar ddydd Gwener 1 Mai. Bydd ffotograffau’n cael eu harddangos yn Oriel Colwyn hyd at 14 Mawrth, pan fyddent yn cael eu hymgorffori i ofod arddangosfa Coed Pella ar gyfer gweddill y sioe.

I gael mwy o wybodaeth ar yr arddangosfa, ewch i Beth sydd Ganddo i’w wneud â Mi? 

Wedi ei bostio ar 09/03/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?