Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Cais am Drwydded Forol i Atgyweiriadau Morglawdd Llanfairfechan

Cais am Drwydded Forol i Atgyweiriadau Morglawdd Llanfairfechan


Summary (optional)

Deddf y Mor a Mynediad i'r Arfordir 2009

Rhan 4: Trwyddeu Morol

start content

Hysbysir drwy hyn, yn unol â Rhan 4, Pennod 1, Adran 68, Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, fod  Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gweithredu ar ran yr Awdurdod trwyddedu, am drwydded forol i Atgyweiriadau morglawdd Llanfairfechan.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/.
Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2210. Yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol gyda golwg ar Coronafirws (COVID-19) ni fydd copi caled o’r cais a dogfennau ategol ar gael mewn man cyhoeddus yn y cyfnod hwn’.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i’r Tîm Trwyddedu Morol, Gwasanaeth Trwyddedu Caerdydd, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP,  neu yrru e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y rhybudd hwn, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2210.

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad y gellir anfon gohebiaeth iddo. Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithredu ar ran yr Awdurdod Trwyddedu, yn trosglwyddo copi o unrhyw sylw neu wrthwynebiad a dderbynnir i’r ymgeisydd.

end content