Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Penodi Aelodau Cyfetholedig i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Penodi Aelodau Cyfetholedig i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru


Summary (optional)
start content

Mae Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru’n dymuno penodi pobl ymroddgar i wasanaethu fel aelodau cyfetholedig o 01/11/21 tan 31/10/2024 er mwyn cefnogi a chraffu ar waith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Gwahoddir ceisiadau gan bobl y mae ganddynt ddiddordeb ac sy’n deall pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a sut y maent yn cael eu darparu, ac sydd â diddordeb mewn diogelwch cymunedol a materion yn ymwneud â phlismona a chyfiawnder troseddol. Mae’r Panel Heddlu a Throsedd yn dymuno adlewyrchu holl gymunedau gogledd Cymru, ac yn croesawu ceisiadau gan bob unigolyn cymwys ac o bob rhan o gymdeithas.

I wneud cais, bydd angen i chi allu dod i o leiaf 5 cyfarfod bob blwyddyn a gynhelir ym Modlondeb, Conwy yn ystod y diwrnod gwaith arferol.  Caiff aelodau’r Panel Heddlu a Throsedd gydnabyddiaeth ariannol yn unol â threfniadau’r Panel Heddlu a Throsedd.   I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.nwpcp.org.uk, ac i gael ffurflen gais, cysylltwch â’r Panel Heddlu ar Throsedd ar 01492 576061 neu anfonwch e-bost at policepanel@conwy.gov.uk

Dyddiad Cau: 20/08/2021.

Cynhelir y cyfweliadau ym mis Medi 2021, a bydd y penodiadau’n cael eu gwneud ym mis Hydref 2021.

end content