Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tai Amlbreswyl a Deddf Tai 2004


Summary (optional)
start content

HYSBYSIAD CYHOEDDUS YNGLŶN Â CHYNLLUN TRWYDDEDU YCHWANEGOL

Rhoddir rhybudd drwy hyn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar yr 29ain diwrnod o Hydref 2019 wedi dynodi cynllun trwyddedu ychwanegol mewn perthynas â Thai Amlbreswyl o fewn ward etholiadol Abergele Pensarn.  Gelwir y cynllun hwn yn Gynllun Trwyddedu Ychwanegol (Tai Amlbreswyl Abergele Pensarn) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2019 (“Y Cynllun”). Mae’r dynodiad yn unol â Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlbreswyl a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006.

Mae’r Cynllun mae’r dynodiad yn berthynol iddo wedi cael Cymeradwyaeth Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru dan Ddeddf Tai 2004 (Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlbreswyl Cymru) Cymeradwyaeth Cyffredinol 2007 a ddaeth i rym 13 Mawrth 2007.  Felly, yn rhinwedd Adran 58 isadrannau (1)(b) a (7) nid oes angen cadarnhau’r dynodiad a daw i rym ar ddyddiad sydd wedi’i nodi yn y Dynodiad

Bydd y Cynllun yn gweithio ynghyd â Chynllun Trwyddedu Gorfodol Tai Amlbreswyl yr Awdurdod Lleol a ddaeth i rym 30 Mehefin 2006. Daw’r Cynllun i rym 1 o Ionawr 2020 ac os na fydd wedi’i ddiddymu cyn hynny neu ei ymestyn fe ddaw i ben ar 31 o Rhagfyr 2024.

Mae’r Cynllun yn cynnwys yr holl Dai Amlbreswyl yn yr ardal sydd wedi’i nodi uchod, heblaw'r rhai sydd wedi’u heithrio gan adrannau perthnasol o’r Ddeddf a’r rhai sydd eisoes wedi’u trwyddedu dan y Cynllun Trwyddedu Gorfodol Tai Amlbreswyl.

Dylai pob perchennog, landlord neu asiant eiddo yn yr ardal sydd wedi’i henwi, ofyn cyngor yr Awdurdod Lleol ynglŷn â Thrwyddedu Tai Amlbreswyl.

Er mwyn i gais gael ei ystyried, rhaid darparu manylion rhagnodedig a’r tâl gofynnol.

Mae Ffurflenni Cais ar gael o:

Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

Neu, anfonwch e-bost at gwasanaethau.rheoleiddio@conwy.gov.uk

end content