Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Hysbsiad o Gais ar Gyfer Cynllun Gwenlliannau i Amddiffynfa Arfordirol Bae Cinmel

Hysbsiad o Gais ar Gyfer Cynllun Gwenlliannau i Amddiffynfa Arfordirol Bae Cinmel


Summary (optional)

Deddf y Mor a Mynediad i'r Arfordir 2009

Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007

start content

Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Swyddfeydd Mochdre, Ffordd Conwy, Mochdre, Conwy, LL28 5AB wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.

Mae'r cais ar gyfer cynllun amddiffynfa arfordirol ym Mae Cinmel, sy’n cynnwys uwchraddio’r gwrthglawdd carreg cyfredol, codi uchder y morglawdd a llifddor newydd. Mae gwelliannau tir y cyhoedd a gwelliannau ecolegol hefyd yn rhan o’r cynllun. Mae arwynebedd y gwaith parhaol tua 35,111m² ond dim ond cyfran gyfyngedig o’r cynllun sydd o dan y cymedr penllanw mawr.

Mae copïau o'r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am ddim yn Llyfrgell Bae Cinmel, Canolfan Gymuned, Kendal Road, Bae Cinmel LL18 5BT (oriau agor - dydd Mawrth 10am-1pm, dydd Mercher 2pm-6pm, dydd Iau 10am-1pm, dydd Gwener 2pm-5pm) am gyfnod o 35 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwn.

Gallwch hefyd gael copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod ar-lein o https://publicregister.naturalresources.wales/ gan ddefnyddio’r cyfeirnod CML2272 neu drwy e-bostio CNC yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch y cais a'r datganiad amgylcheddol wneud hynny'n ysgrifenedig i CNC trwy ysgrifennu at y Gwasanaeth Trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP, neu drwy e-bostio marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk o fewn 35 o ddyddiau o'r hysbysiad hwn. Dylai'r sylwadau fod wedi'u dyddio a dylid nodi'n glir enw (mewn priflythrennau) a chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy'n cyflwyno'r sylwadau.

Dyfynnwch y cyfeirnod CML2272 yn eich holl ohebiaeth.

Eir i'r afael â sylwadau a dderbynnir gan aelodau'r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan CNC eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant hefyd ar gael i'w gweld yn gyhoeddus.

Mae CNC yn awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd CNC yn rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect, yn rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.

end content