Mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2021.
Dangosir terfynau amser statudol 2020/21 yn y tabl isod ynghyd â therfynau amser estynedig a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru oherwydd parhad y pandemig.
Eitem | Dyddiad Cau Statudol | Dyddiad Cau Estynedig |
Datganiad Cyfrifon Drafft
|
31 Mai 2021
|
31 Awst 2021
|
Datganiad Cyfrifon Archwiliedig
|
31 Gorffennaf 2021
|
30 Tachwedd 2021
|
Nid yw'r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 oherwydd effaith Covid19 ar adnoddau staff a gwaith ychwanegol i gwblhau'r cyfrifon eleni, a bydd yn gweithio o fewn y terfynau amser estynedig.