Mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2022.
Dangosir terfynau amser statudol 2021/22 yn y tabl isod ynghyd â therfynau amser estynedig a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru oherwydd parhad y pandemig.
Eitem | Dyddiad Cau Statudol | Dyddiad Cau Estynedig |
Datganiad Cyfrifon Drafft
|
31 Mai 2022
|
31 Awst 2022
|
Datganiad Cyfrifon Archwiliedig
|
31 Gorffennaf 2022
|
30 Tachwedd 2022
|
Mae’r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi, ardystio a chyflwyno’r cyfrifon i’w harchwilio ar 15 Gorffennaf 2022 ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, yn hwyrach na’r dyddiad cau statudol ar 31 Mai 2022 oherwydd effaith Covid19 ar adnoddau staff a gwaith ychwanegol i gwblhau'r cyfrifon eleni, a bydd yn gweithio o fewn y terfynau amser estynedig.
Ni chyhoeddwyd y Datganiad Cyfrifon a Archwiliwyd erbyn y dyddiad cau statudol ar 31 Gorffennaf 2022, ond disgwylir y bydd wedi’i gyhoeddi erbyn y dyddiad cau estynedig ar 30 Tachwedd 2022.