Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) (Diwygiedig) 2017

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) (Diwygiedig) 2017


Summary (optional)
start content

Hysbysiadau ar gyfer Gwaith Lliniaru Llifogydd yng Nghynor Bwrdeistref Sirol Conwy

Rhoddir rhybudd drwy hyn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud gwaith lliniaru llifogydd yn y lleoliadau a nodir yn yr atodlen isod, dan Reoliad 5(1) y rheoliadau uchod, ac nid yw’n bwriadu paratoi Datganiad Amgylcheddol gan mai gwaith i adnewyddu adeileddau sy’n bod eisoes yw hwn.

Cyfeirnod Prosiect: EP10C4

Lleoliad/Cyfeiriad: Gwaith Lliniaru Llifogydd - Afon Bach, Llansannan

Crynodeb Byr o’r Gwaith: Mae’r gwaith hwn yn cynnwys adeiladu ceuffos newydd sy’n fwy o ran maint, ar draws yr A544, ar ochr ogleddol y pentref. Gan ledu’r sianel a chynnal gwelliannau i’r nant drwy Delar Bach o flaen Llain Hiraethog. Disodli’r ceuffos pibellog yn Ffordd Gogor hyd ar Uwch yr Aled gyda ceuffos petryal concrid wedi'i rag-gastio newydd sy’n fwy o ran maint. Yn ogystal â hynny, byddwn yn tynnu’r sgrin bresennol i lawr at ben ceuffos A544.

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y cynllun arnoch, gwnewch gais dros e-bost i ERF@conwy.gov.uk

Bydd y gwaith yn cynnig mwy o gadernid i breswylwyr Llansannan rhag llifogydd, gan ganiatáu dŵr storm i lifo'n rhydd heb rwystro Afon Aled.

Dylai sylwadau neu wrthwynebiadau ynghylch y cais gael eu gwneud yn ysgrifenedig, gan roi cyfeiriad i anfon gohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r sylwadau neu wrthwynebiad, at Mr Geraint Edwards, Pennaeth Gwasanaeth yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Ffordd Conwy, Mochdre, Bae Colwyn, LL28 5AB, cyn pen 30 niwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwn gan ddyfynnu cyfeirnod perthnasol y prosiect a nodir uchod.

28/07/21

end content