Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Be sy'n newydd Helpwch i atal tipio anghyfreithlon

Helpwch i atal tipio anghyfreithlon


Summary (optional)
start content

Mae Rachel Clarke yn Fyfyrwraig Cwrs Meistr mewn Cyfrifeg Fforensig ac mae’n byw yng ngogledd Cymru. Mae’n cynnal prosiect ymchwil sy’n cymharu canfyddiad aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru o dipio anghyfreithlon gyda’r ffeithiau gwirioneddol. Mae Rachel yn dymuno cael gwell dealltwriaeth o’r hyn y mae pobl Cymru yn ei wybod ac yn ei feddwl am Dipio Anghyfreithlon.

Y gobaith yw y bydd ei chanfyddiadau’n cael eu defnyddio i greu strategaethau y gall Awdurdodau Lleol, Taclo Tipio Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru eu gweithredu er mwyn paratoi’n well ar gyfer y frwydr yn erbyn Tipio Anghyfreithlon. Hoffai Rachel ddangos y costau gwirioneddol a chudd sy’n gysylltiedig â Thipio Anghyfreithlon, gan godi ymwybyddiaeth pawb o’r gost i bobl Cymru.

Fel myfyrwraig mae Rachel yn dysgu Cymraeg ac mae’n cydnabod yr angen i’r arolwg fod yn ddwyieithog.  Yn anffodus oherwydd diffyg cyllid ac amser, nid yw Rachel wedi medru cynhyrchu'r arolwg yn Gymraeg.

Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn gan eich bod yn byw yng Nghymru ac mae’ch barn a’ch safbwyntiau yn bwysig.

https://www.smartsurvey.co.uk/s/Help-Stop-Fly-Tipping/

end content