Mae Llywodraeth y DU wedi addo i roi cartref i 20,000 o ffoaduriaid o Syria erbyn 2020 ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi’r addewid hwn trwy ymrwymo i roi cartref i nifer o deuluoedd.
Mae ein Swyddog Prosiect Ffoaduriaid Syria yn awyddus i siarad â landlordiaid sector rhentu preifat a all fod â chartrefi i'w rhentu yn Sir Conwy.
Mae’r holl gytundebau rhwng y landlord a Chyngor Conwy i ddechrau a bydd yn rhoi rhent misol sicr am gyfnod penodol.
Bydd y ffoaduriaid o Syria yn cael eu cefnogi gan y Groes Goch Brydeinig a Chyngor Conwy i setlo a dod yn rhan o’r gymuned a, dros amser, bydd y gefnogaeth yn lleihau yn raddol a bydd y ffoaduriaid yn cael eu hannog i ddod o hyd i’w llety sector preifat eu hunain neu ymrwymo i’w tenantiaeth eu hunain yn uniongyrchol â’r landlord..
Mae Sir Conwy ar hyn o bryd yn darparu lle ar gyfer 2 deulu o Syria sydd wedi ymgartrefu yn dda, a disgwylir tri teulu arall cyn diwedd 2018.
Dylai unrhyw landlord preifat sydd eisiau rhagor o wybodaeth am y prosiect cefnogi dyngarol sy’n helpu ffoaduriaid o Syria a’u teuluoedd i ymgartrefu yn Sir Conwy, gysylltu â Jackie Moss, jackie.moss@denbighshire.gov.uk, ffôn 01824 708393/07748931008 neu Lynsey Blackford, Lynsey.blackford@conwy.gov.uk ffôn 01492 576264.