Mae gan y gymdeithas dai leol, Grŵp Cynefin, arian ar gael i gynorthwyo ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn prynu eiddo. Mae benthyciad Cymorth Prynu o rhwng 30-50% o bris prynu’r eiddo ar gael i bobl sy’n bwriadu prynu eu tŷ eu hunain ar y farchnad agored.
Mae’r cynllun yn amodol ar delerau ac amodau ac mae ar gael yn sir Conwy yn unig.
I gael rhagor o wybodaeth am y benthyciad Cymorth Prynu neu ddewisiadau tai fforddiadwy eraill, ffoniwch Grŵp Cynefin ar 0300 1112122 neu ewch i’w gwefan yn www.grwpcynefin.org/cy/
Tai Fforddiadwy