Ddydd Mawrth 29 Medi 2020, lansiodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol eu gwefan newydd sbon sef AwtistiaethCymru.org / AutismWales.org (ASDinfoWales.co.uk gynt).
Er bod y wefan flaenorol yn un adnabyddus a sefydledig, ac yn darparu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i bobl awtistig, eu teuluoedd, rhieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd, teimlai’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ei bod yn bryd i’r wefan gael ei hadfywio.
Rhwng Hydref 2019 a Ionawr 2020, rhannodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol arolwg ar-lein yn gofyn i ddefnyddwyr y wefan, budd-ddeiliaid allweddol a rhwydweithiau am adborth am y wefan www.ASDinfoWales.co.uk. Derbyniwyd llawer o ymateb i’r arolwg gan bobl awtistig, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Cadarnhaodd yr adborth bod lle i wella o ran profiad y defnyddiwr a gwelywio’r safle, a bod angen diweddaru rhywfaint o’r cynnwys.
I ddarganfod mwy ewch i:
https://autismwales.org/cy/news/croeso-in-gwefan-newydd/