Beth yw Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant?
Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant yw gorfodi neu ddylanwadu ar blant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol.
Mae’n fath o gam-drin rhywiol sy’n cynnwys rhoi rhywbeth yn gyfnewid, fel arian, ffôn symudol neu eitemau eraill, cyffuriau, alcohol, lle i aros, ‘amddiffyniad’ neu serch. Mae natur ddiamddiffyn y bobl ifanc hyn a phroses ymbaratoi’r troseddwyr yn golygu eu bod yn ddi-rym i adnabod natur ecsbloetiol y berthynas ac felly ddim yn gallu cydsynio ar sail gwybodaeth.
Beth i chwilio amdano:
- Person ifanc yn aros allan yn hwyr
- Pobl ifanc hŷn / oedolion nad ydych chi’n eu hadnabod yn mynd i mewn i’r tŷ
- Defnydd o ffonau symudol / rhyngrwyd sy’n peri pryder
- Mynegiant o anobaith (hunan-niweidio, gorddos, ymddygiad heriol, anhwylder bwyta, ymddygiad ymosodol)
- Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol / beichiogrwydd / terfynu beichiogrwydd
- Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
- Llety anaddas / amhriodol
- Person ifanc wedi ei ynysu o’i gyfoedion
- Diffyg perthynas gadarnhaol gydag oedolyn amddiffynnol
- Wedi ei wahardd / ddim yn ymgysylltu ag addysg, gwaith na hyfforddiant
- Byw’n annibynnol a ddim yn ymateb i ymgais i gysylltu
Dangosyddion Risg Sylweddol:
- Mynd ar goll dros nos neu am gyfnod hirach
- Cariad hŷn / perthynas ag oedolyn gormesol
- Camdriniaeth gorfforol / emosiynol gan y person hwnnw
- Mynd i mewn / allan o gerbydau gydag oedolion nad ydych chi’n eu hadnabod
- Arian, dillad neu eitemau eraill nad oes modd eu hegluro
- Ymweld ag ardaloedd sy’n hysbys am gam-fanteisio
- Anaf corfforol heb reswm credadwy
- Datgelu ymosodiad corfforol / rhywiol
- Cyfoedion sy’n gysylltiedig â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant neu ‘glipio’
Mae mwy o wybodaeth am Ddiogelu ar gael yma