Mae Darren Durrant, 21 mlwydd oed, wedi derbyn swydd Barista gyda'r Gymraes a enillodd yr Apprentice, yng nghaffi Ridiculously Rich Alana Spencer yn Llandudno diolch i gymorth Cymunedau am Waith a Mwy Conwy.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy Conwy wedi darparu cefnogaeth ymgynghorol cyflogaeth arbenigol a mentora dwys i Darren ers mis Ionawr 2021, ac mae ei fentor Trish wedi gweithio gydag ef mewn sesiynau un i un i fagu ei hyder a chefnogaeth arall yr oedd ei angen i'w gynorthwyo i wella ei gyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol.
Ar ddechrau 2021 cyhoeddodd Alana Spencer ei bod yn agor ei chaffi pwdin newydd yn Llandudno a gwelodd Darren hysbyseb am staff ar ei chyfrif Instagram, ac fe soniodd am hynny gyda’i fentor. Gyda chymorth Trish roedd Darren yn un o’r 900 o ymgeiswyr a wnaeth gais am swydd yn safle Pwll Padlo Promenâd Craig-y-Don. Fe lwyddodd i gyrraedd y rhestr fer o 40 o ymgeiswyr ac fe gafodd wahoddiad i fynychu cwrs hyfforddiant Barista yn Abertawe ond er mwyn symud i'r cam nesaf roedd angen iddo dalu am gost cludiant a llety.
Nododd Trish, Rheolwr Ymarferydd Cyflogaeth Cymunedau am Waith a Mwy a mentor Darren:
“Darren sy’n haeddu’r clod am gyrraedd y rhestr fer ac roedd mynychu’r cwrs yn Abertawe yn rhan bwysig o’r broses recriwtio. Roedd y gost yn rhwystr sylweddol felly roedd Cymunedau am Waith a Mwy a’i hyfforddwr gwaith yn fwy na bodlon talu amdano, ac fe fu modd i ni gynorthwyo Darren gyda dillad gwaith gan ei gynorthwyo i dderbyn ei swydd ddelfrydol.”
Roedd y cwrs Barista yn gyfle i Darren ddatblygu'r wybodaeth, sgiliau ac angerdd am gelf gwneud espresso ynghyd â'r sgiliau ar gyfer creu ystod eang o ddiodydd eraill gan gynnwys cappuccino a latte. Yna cafodd wahoddiad i fynychu lleoliad am bythefnos yn y caffi a oedd newydd agor ac fe lwyddodd gan dderbyn rôl barhaol.
Ychwanegodd Darren:
“Roeddwn yn gweithio yn y diwydiant lletygarwch ar gyfer gwesty ond roeddwn ar gontract dim oriau ac eisiau mwy o ddiogelwch o ran swydd felly roedd yn gyfle rhy dda i’w golli. Mae fy nyled yn fawr i Gymunedau am Waith a Mwy am yr holl gymorth a gefais ganddynt yn enwedig fy nghynorthwyo i fynychu'r cwrs, a oedd yn werthfawr iawn er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau ynghyd â nifer o awgrymiadau a thechnegau ymarferol yr wyf yn awr yn eu defnyddio."
“Ynghyd â bod â chymhwyster fel Barista, rwyf yn awr yn arbenigwr ar gacennau blasus Alana ac yn mwynhau pob eiliad! Mae'r tîm yn cyd-dynnu'n wych ac mae gwybod bod pob un ohonom yn aelod gwerthfawr o lwyddiant Caffi Ridiculously Rich yn Llandudno yn galonogol”.
Yn ogystal â darparu cysylltiadau i gyfleoedd cyflogaeth a chyfres o gyrsiau am ddim mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy hefyd yn helpu pobl gyda CVs, technegau cyfweliad ac awgrymiadau, gwaith gwirfoddol, lleoliadau gwaith, sgiliau TG sylfaenol a magu hyder.
