Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cyfuno mynediad rhad ac am ddim i lyfrau gyda gweithgareddau creadigol sy’n llawn hwyl yn ystod gwyliau’r haf. Drwy gydol yr Sialens bydd staff llyfrgelloedd yn cefnogi’r plant ac yn eu helpu i ddarganfod awduron a darlunwyr newydd a hefyd byddant yn eu helpu i archwilio ystod eang o wahanol fathau o lyfrau a dulliau o ddarllen.
Sut mae’r Sialens yn gweithio
- Fe fydd plant yn cofrestru drwy eu llyfrgell leol ac yn derbyn poster casglwr Arwyr y Byd Gwyllt
- Bydd plant yn gosod nod o ran darllen ac yn benthyg a darllen llyfrau llyfrgell o'u dewis eu hunain yn ystod yr haf, gan gasglu sticeri arbennig i gwblhau eu poster ac eitemau eraill a fydd yn eu hannog ar hyd y daith
- Fe fydd staff y llyfrgelloedd wrth law i gynghori ac i gynnal gweithgareddau addas i’r teulu.
- Fe fydd plant a fydd yn cwblhau Sialens Ddarllen yr Haf yn derbyn tystysgrif a medal.
Ar wefan swyddogol y Sialens, arwyrbydgwyllt.org.uk ,mae yna wobrau digidol, fideos awduron, gemau a mwy y gall plant eu mwynhau drwy'r haf.
Mae Llyfrgelloedd Conwy nawr ar agor ar gyfer sesiynau pori (gan gadw at ganllawiau Covid) fel y gall plant a'u teuluoedd ymweld o ddydd Sadwrn Gorffennaf 10 i gofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf.
Os yw’n well gan deuluoedd fe allwn drefnu gwasanaeth Ffonio a Chasglu a bydd staff y llyfrgell yn dewis ystod o lyfrau addas i'w casglu o'r llyfrgell ar amser a gytunwyd, a gallant gynnwys pecyn Sialens Ddarllen yr Haf.
I gyd-fynd â thema sialens eleni rydym yn gyffrous iawn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Sw Fynydd Cymreig i gyflwyno cyfres o sesiynau amser stori ar ddydd Llun trwy gydol yr haf yn y sw. Bydd y sesiynau hyn ar gael i'w harchebu a rhaid prynu tocyn sw i fynychu'r sesiynau http://welshmountainzoo.org/cy/.
Fel rhan o weithgareddau ‘Haf o Hwyl’ Conwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru rydym yn gallu cynnig cyfle i 10 enillydd lwcus gael tocynnau Sw i’r teulu am ddim.
Gellir cynnwys pob plentyn sy'n cofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf yn y raffl wythnosol sydd ar gael am ddim.
Telerau ac amodau’r raffl
O ran gwobrau'r raffl mae’r telerau ac amodau canlynol yn berthnasol:
- Drwy gael eich cynnwys yn y raffl rydych yn cytuno i'r telerau ac amodau hyn
- Mae'r raffl yn cael ei gynnal gan Lyfrgelloedd Conwy
- Mae'r raffl yma, sydd am ddim, ar agor i rai sydd yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf
- Mae'n rhad ac am ddim i gymryd rhan yn y raffl wythnosol
- Bydd y raffl wythnosol yn cael ei gynnal bob dydd Gwener drwy gyfnod y Sialens
- Bydd yr enillydd yn cael ei dynnu ar hap
- Hysbysir enillwyr drwy eu dull cyswllt dewisol
- Dim ond ar gyfer y dyddiadau a nodwyd y mae tocynnau'n ddilys ac ni ellir eu cyfnewid
- Gellir cymryd rhan yn y raffl o’r dyddiad cofrestru gyda’r Sialens
- Ni ellir cyfnewid tocynnau, ni ellir eu trosglwyddo ac ni chynhigir unrhyw ddewisiadau arall mewn arian parod
- Gellir casglu gwobrau’r gystadleuaeth o'r Llyfrgell lle rydych chi'n aelod