Mae’n falch gennym eich gwahodd i’n gweminar gyntaf Digwyddiadau Conwy SYDD AM DDIM:
Gweminar 1 Digwyddiadau Conwy – Cynllunio Digwyddiad gyda rheoliadau Covid-19 a chlywed dros eich hun am ddigwyddiad prawf Theatr Clwyd.
Mae Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, Liam Evans Ford yn ymuno â ni i fynegi ei brofiad o sut deimlad oedd hi i gynnal eu digwyddiad prawf Covid-19 (dim ond un allan o dri sydd wedi digwydd yng Nghymru hyd yma). Defnyddiwch ei brofiad i ateb unrhyw gwestiynau posib sydd gennych am gynnal digwyddiad eich hun yn y dyfodol.
Hefyd yn ymuno â’r panel mae John Donnelly, Pennaeth Safonau Masnach a Swyddog Trwyddedu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd hefyd yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch. Mae gan John yr holl wybodaeth ddiweddaraf ar reoliadau’r llywodraeth a gall eich helpu i baratoi ar gyfer Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o dan y canllawiau presennol.
Anfonwch eich cwestiynau at digwyddiadau@conwy.gov.uk erbyn dydd Sul 6 Rhagfyr fel bod y panel yn gallu paratoi eich atebion.
Archebwch eich lle ar wefan Event Brite
Cadwch lygad am e-bost ynghylch ein Gweminar nesaf wedi’i threfnu ar gyfer Ionawr 2021.