Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Ymwelwyr Digwyddiadau Noel Gallagher - Stadiwm Eirias Bae Colwyn Dydd Sadwrn 18 Mehefin 2022

Noel Gallagher - Stadiwm Eirias Bae Colwyn Dydd Sadwrn 18 Mehefin 2022


Summary (optional)
start content

High Flying Birds Noel Gallagher yn Cyhoeddi Sioe Awyr Agored Enfawr yn Stadiwm Eirias

Bae Colwyn Dydd Sadwrn 18 Mehefin 2022

ng-hfb

Tocynnau ar werth i’r cyhoedd yn gyffredinol ddydd Gwener 26 Tachwedd 2021 am 9am o gigantic.com a Swyddfa Docynnau Venue Cymru -

01492 872000
www.venuecymru.co.uk

Mae High Flying Birds Noel Gallagher wedi cyhoeddi sioe unigryw yng Ngogledd Cymru yn Stadiwm Eirias ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn 18 Mehefin 2022 gyda The Vaccines a Feeder yn cefnogi.

Ym mis Mehefin 2021 rhyddhawyd ‘Back The Way We Came: Vol 1 (2011-21)’ - Dathliad o ddegawd o High Flying Birds, Noel Gallagher. Lluniodd Noel y rhestr o draciau yn cynnwys gwaith amrywiol gan gynnwys traciau o 3 albwm stiwdio, 3 EP a 2 sengl newydd - ‘We’re On Our Way Now’ a ‘Flying On The Ground’. Hwn oedd pedwerydd albwm rhif 1 High Flying Birds Noel Gallagher a’r 12 albwm rhif 1 yn ystod gyrfa Noel.

Mae The Vaccines a Feeder hefyd wedi rhyddhau cerddoriaeth newydd yn 2021, gyda The Vaccines yn rhyddhau albwm ‘Back in Love City’ yn gynharach eleni ac albwm newydd Feeder ‘Torpedo’ yn cael ei ryddhau yn y gwanwyn flwyddyn nesaf.

Bydd seren Oasis yn cyflwyno casgliad o ganeuon o ddegawd ddiwethaf yr High Flying Birds ynghyd â hen ffefrynnau. 

Bydd y sioe yn rhagflaenu dwy sioe arall yn yr un lleoliad ym mis Awst gydag Olly Murs a Pete Tong a The Heritage Orchestra yn cyflwyno ei sioe Ibiza Classics.

Dywedodd Pablo Janczur o’r hyrwyddwyr Orchard Live ‘rydym wedi cyffroi o weld y perfformwyr anhygoel hyn yn dod i Fae  Colwyn. Rydym wedi bod eisiau croesawu perfformwyr roc i Fae Colwyn ers peth amser a beth gewch chi’n well, Noel Gallagher a’i fand yn cael eu cefnogi gan The Vaccines a Feeder yng nghanol yr haf. Bydd yn ddiwrnod i’w gofio.’

end content