Olly Murs Yn Cyhoeddi Taith Haf wedi’i Haildrefnu - 11 Sioe Eleni a 13 Sioe'r Flwyddyn Nesaf
Bydd Olly Murs yn perfformio yn Parc Eirias ym Mae Colwyn ar 13 Awst y flwyddyn nesaf fel rhan o daith gyda 25 dyddiad yn y DU (tocynnau ar werth am 9am ar 9 Hydref ar ticketmaster.co.uk ac ollymurs.com).

Mae Olly Murs wedi cadarnhau ei gynlluniau i gynnal sioeau yn 2021 a haf 2022. Bydd tocynnau a brynwyd eisoes yn dal i fod yn ddilys ar gyfer y dyddiadau newydd. Nod y daith hon fydd rhoi gwên ar wynebau pawb wrth iddo berfformio ei ganeuon mwyaf poblogaidd, gan gynnwys caneuon oddi ar ei albwm platinwm triphlyg, ‘Never Been Better’.
“Rydw i mor hapus ‘mod i’n cael mynd ar daith ledled y DU yn ystod yr haf, ar ôl y flwyddyn rydyn ni wedi’i chael!” meddai Olly. “Rydyn ni wedi gweithio'n galed i gynnig cymaint o sioeau ag y gallwn ni eleni a’r flwyddyn nesaf, ac rydw i'n edrych ymlaen at gael dod ag ychydig o hwyl i’r llwyfan i godi calonnau fy nilynwyr. Meddwl am gael perfformio gyda fy mand, gweithio gyda fy nghriw a gweld fy nilynwyr sy’n fy nghadw i i fynd drwy'r cyfnod clo, felly mae’n hwyr glas i’r haf gyrraedd!”
Bu 2020 yn flwyddyn brysur i Olly: bu’n gapten ar dîm Lloegr yn gêm Soccer Aid y llynedd, a chadwodd ei goron fel beirniad buddugol trydedd gyfres The Voice gyda'r gantores Blessing Chitapa. Mae i'w weld ar hyn o bryd ar ein sgrin bob nos Sadwrn ar gyfres newydd The Voice, a'i nod yw ennill y gamp lawn.
Yn ystod y cyfnod clo, llwyddodd hefyd i drawsnewid ei gorff, gan weithio’n agos gyda’r hyfforddwr personol Rob Solly, a rhannu ei arferion ffitrwydd yn gyfyngedig gyda Men’s Health.
Bydd Olly Murs yn chwarae’r sioeau canlynol yn 2021. Mae tocynnau nawr ar werth YMA.
Dyddiadau 2021:
Gorffennaf
Sadwrn 17 - Cae Rasio Haydock Park, St Helens (DYDDIAD GWREIDDIOL)Iau 29 - Bedford Park, Bedford (DYDDIAD GWREIDDIOL)Gwener 30 - Cae Rasio Newmarket, Newmarket (DYDDIAD GWREIDDIOL)
Awst
Sadwrn 14 - Cae Rasio Newbury, Newbury (DYDDIAD GWREIDDIOL)Sul 15 - Parc Singleton, Abertawe (DYDDIAD NEWYDD)Gwener 27 - Theatr Awyr Agored Scarborough, Scarborough (DYDDIAD NEWYDD)Sadwrn 28 - Arena Darlington, Darlington (DYDDIAD GWREIDDIOL)Sul 29 - Castle Park, Colchester (DYDDIAD GWREIDDIOL)
Medi
Sul 5 - Arena QEII, Telford (DYDDIAD NEWYDD)Sadwrn 18 - The Hop Farm, Kent (DYDDIAD NEWYDD)
Dyddiad i’w gadarnhau
Carlisle Bitts Park, Cumbria (DYDDIAD NEWYDD I’W GADARNHAU)
Dyddiadau wedi’u haildrefnu yn 2022:
Mehefin
Gwener 10 - Live At Botanic Gardens, Belfast Sadwrn 11 - Live At The Marquee, CorkGwener 17 - Royal Hospital Chelsea, Llundain
Gorffennaf
Gwener 1 - Live In The Wyldes, CernywGwener 8 - Castell Caeredin, CaeredinSadwrn 9 - Harewood House, LeedsMawrth 12 - Blickling Estate, NorwichMercher 13 - New Milton, Chewton GlenIau 14 - Bath Royal Crescent, CaerfaddonSadwrn 16 - Castell Warwick, WarwickIau 21 - Castell Caerdydd, CaerdyddMercher 27 - Castell Powderham, Caerwysg
Awst
Gwener 12 - Parc Eirias, Bae Colwyn
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan swyddogol:
www.ollymurs.com