Pete Tong A The Heritage Orchestra Wedi’I Harwain Gan Jules Buckley Yn Cyflwyno Ibiza Classics
Y SIOE YM MAE COLWYN RŴAN I GAEL EI CHYNNAL AR 13 AWST 2022 -
O ganlyniad i aildrefnu holl sioeau Pete Tong a The Heritage Orchestra ym mis Mehefin, bydd sioe Bae Colwyn bellach yn cael ei haildrefnu i ddyddiad newydd ym mis Awst 2022.
Dywedodd Orchard Live:
‘Mae’n ddrwg gennym ni gyhoeddi, oherwydd y sefyllfa ar hyn o bryd o ran iechyd y cyhoedd, fod cyngerdd Pete Tong a The Heritage Orchestra yn Stadiwm Zipworld yn cael ei symud i ddydd Sadwrn 13 Awst 2022. Rydyn ni’n gwybod y bydd y ffans wedi’u siomi nad yw’r cyngerdd yn cael ei gynnal eleni, ond rydyn ni’n addo y bydd hi werth disgwyl! Mae’r sioe Ibiza Classics yn gynhyrchiad enfawr o effeithiau gweledol a cherddorol gwych ac allwn ni ddim disgwyl i ffans cerddoriaeth ddawns Gogledd Cymru ei mwynhau.’
Dywedodd Pete Tong:
‘Rydw i a Jules Buckley yn edrych ymlaen cymaint i ddod â’r gerddorfa ac Ibiza Classics i Stadiwm Zipworld yn 2022. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod mor ansicr, ond rydyn ni’n dal ati... ac rydw i’n eich sicrhau chi y bydd hon yn noson i’w chofio. Cofiwch eich sgidiau rafio!”
Mae tocynnau ar werth ar hyn o bryd ar gyfer Pete Tong a The Heritage Orchestra, ar gael o Ticketmaster.co.uk a Venue Cymru ar 01492 872000. Bydd tocynnau sydd wedi’u prynu’n barod yn trosglwyddo’n awtomatig i 2022.
Ar gyfer unrhyw wybodaeth i’r cyfryngau, cysylltwch â Connor.cupples@thinkorchard.com.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan swyddogol:
PeteTong-IbizaClassics.com
Orchardlive.com