Mae Quest Cymru, rhan o Gyfres Antur Quest, yn dychwelyd i bentref hudolus Betws-y-Coed sy’n nythu ym marc chwarae antur Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngogledd Cymru.
Mae’r llwybrau wedi eu cynllunio i herio ac ysbrydoli fel prawf go iawn o wytnwch i unrhyw un sy’n frwd am yr awyr agored. Gyda'r llwybr Arbenigwyr 53km, y llwybr Chwaraeon 42km, a’r llwybr Her 25km i chi eu dewis, bydd Quest yn mynd â chi ar antur i gyrraedd eithaf eich gallu corfforol. Mae teithiau beic caled, rasys rhedeg trywydd a thaith ar gaiac mewn llyn yn y Parc Cenedlaethol yn aros amdanoch.
I gael rhagor o wybodaeth am y llwybrau a gwybodaeth am ddiwrnod y ras, ewch i’r wefan; https://www.questadventureseries.com/race/quest-wales/